Mae’r gyfrifiannell hawdd hon yn eich galluogi i weld effaith y newidiadau (o fis Ebrill
2013 ymlaen) i Fudd-dal Tai i denantiaid yn y
sector rhent cymdeithasol. Bydd y newidiadau’n lleihau swm y Budd-dal Tai
a gaiff ei dalu lle mae gan yr annedd fwy o ystafelloedd gwely nag y mae eu
hangen – yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig – ar y bobl sy’n byw yno.
Os ydych chi (neu’ch partner) o oedran pensiwn (61 oed neu hŷn ar hyn o bryd)
nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi. Os oes gennych rent a morgais
i’w talu o dan gynllun ‘rhannu perchnogaeth’, neu os ydych chi’n byw mewn llety
eithriedig â chymorth, nid ydynt yn effeithio arnoch chi chwaith.
Gall aelodau o'r lluoedd arfog, sy'n byw yn y cartref, ond yn absennol
am gyfnodau hir ar wasanaeth gweithredol, gael eu cynnwys yn y niferoedd
isod.